Morlo llwyd – mam a’i chenau

Mae arfordir Ceredigion yn safle magu poblogaidd gan forloi llwyd.





tegeirian gwenynog

Mae’r tegeirian gwenynog yn un o’r nifer o’r blodau gwyllt a ddarganfyddir yn Ynys-las.





lamprai

Fel yr eog a’r sewin, mae’r lamprai hon yn rhywogaeth mudol sy'n bwydo yn y môr cyn nofio i fyny afonydd i silio.





heulseren

Mae riffiau Bae Ceredigion wedi’u gorchuddio â chyfoeth o fywyd y môr lliwgar megis yr heulseren hon.

Bywyd Gwyllt yr Arfordir

Ceir ystod amrywiaeth o gynefinoedd ar hyd arfordir Ceredigion, gan gynnwys aberoedd, clogwyni arfordirol, stormdraethau, baeau tywodlyd a'r môr; sydd yn ei dro yn cynnal amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid.

Cynefinoedd yr Arfordir

rhostogod cynffonfrith

Mae’r adar môr a welir yn gyffredin ar hyd yr ardaloedd hyn yn cynnwys gwylanod y penwaig, gwylanod llai cefnddu, pïod y môr a’r bilidowcar. Yng Nghraig yr Adar ger Cei Newydd, mae nifer fawr o chwilogod, gweilch y penwaig, gwylanod coesddu, adar drycin y graig a mulfrain gwyrddion yn nythu bob haf. Mae clogwyni’r arfordir hefyd yn gynefin i’r cudyll glas. Efallai hefyd y gwelwch y frân goesgoch, sef aelod o deulu’r frân sydd â phig a choesau coch – mae’n rhan o Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Ceredigion.

Y mae’r blodau sydd ar wynebau’r clogwyni ac ar lethrau’r arfordir fwyaf lliwgar yn yr haf. Mae’r planhigion yn cynnwys y glustog Fair, y gludlys arfor, y llwylys cyffredin, amranwen y môr, y ffacbys a bara can y defaid. Mae cynefinoedd y clogwyni arforol a’r llethr, sy’n rhan o Gynllun Biroamrywiaeth Lleol Ceredigion, i’w gweld ar hyd arfordir Ceredigion i gyd.

Mae'r llwybr arfordirol hefyd yn gartref i amrywiaeth mawr o bryfed, o wenyn i ieir bach yr haf i chwilod sy’n darparu arddangosfa ddiddorol o liw a bywyd, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Yr unig ddwy boblogaeth a geir yng Ngheredigion o rywogaeth arall sy’n rhan o Gynllun Bioamrywiaeth Lleol Ceredigion ac sydd i’w gweld ar hyd yr arfordir yw’r fritheg berladeiniog.

Mae llawer o'r llwybr arfordirol hefyd yn mynd trwy diroedd sydd wedi’u dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig naill ai am eu bywyd gwyllt arbennig neu fel adnodd daearegol/geomorffolegol.

Cynefinoedd yr Aberoedd a’r Cyffiniau

Ar ffin ogleddol arfordir Ceredigion y mae Afon Dyfi. Cydnabyddir pwysigrwydd rhyngwladol Aber Dyfi a'r ardaloedd cyfagos gan yr amrywiaeth fawr o enwau a roddir iddynt a’r gwarchodfeydd sydd yno.

Hwyaden yr Eithin

Ceir Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Dyfi, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, Ardal Gwarchodaeth Arbennig Dyfi, Safle Gwlyptir Ramsar Cors Fochno a Dyfi, Ardal Cadwraeth Arbennig Cors Fochno a Biosffer Dyfi, sef yr unig fiosffer sydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r gwarchodfeydd hyn yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau a chynefinoedd, megis gŵydd dalcen-wen yr Ynys Las, twyni tywod, cyforgors a llygod y dŵr.

Y twyni tywod yn Ynyslas sy’n ffinio ag Aber Afon Dyfi yw’r mwyaf yng Ngheredigion, ac maent yn dangos bob cam sy’n digwydd mewn ffurfiant twyni. Maent yn gyfoeth o flodau (gan gynnwys tegeirianau amrywiol), pryfed a chorynnod (gan gynnwys un pry cop, y dentigera Agroeca, sy’n hela creaduriaid y nos ac sy'n anhysbys mewn mannau eraill ym Mhrydain), ac mae’r twyni wedi bod yn ddiweddar yn lleoliad lle ail-gyflwynwyd madfall y twyni sy’n ymlusgiad prin.

Mae ardal o forfa heli, sydd o bell y fwyaf yng Ngheredigion, yn gorwedd ar hyd lan ddeheuol aber Afon Dyfi. Mae'r morfa heli a’r fflatiau llaid cyfagos yn ffynonellau bwyd i adar, yn enwedig adar sy’n mudo dros y gaeaf fel y corhwyaid a’r chwiwiaid.

Mae Aber Afon Teifi, sy’n nodi ffin ddeheuol arfordir Ceredigion, yn faes arall sy’n cael ei gydnabod am ei doreth o fywyd gwyllt. Mae Afon Teifi ei hun yn Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig lle ceir nodweddion neilltuol, yn cynnwys y dyfrgi Ewropeaidd ac eog yr Iwerydd. Ceir hefyd Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi sy'n denu nifer fawr o adar gwyllt, ac sydd hefyd yn gartref i amrywiaeth o weision y neidr, o frogaod a llyffantod niferus a hefyd i nadroedd y gwair a gwiberod. Yn ogystal, ychydig i ganol y tir o'r aber, ceir coetir derw hynafol sy’n Warchodfa Natur Genedlaethol sef Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedmor.

Ceir ystod o nodweddion yn aber Afon Teifi ei hun megis ardaloedd o forfa heli, twyni tywod, banciau o raean a chlogwyni o glai sy’n llithro ac amrywiol adar gwyllt sy’n gaeafu.

dolffiniaid yn chwarae

Bywyd Gwyllt Morol

Mae Bae Ceredigion yn gartref i amrywiaeth cyfoethog rhyfeddol o anifeiliaid a phlanhigion y môr, o fwydod sy’n adeiladu riff i’r dolffiniaid trwynbwl enwog. Mae'r ardal yn gartref i boblogaeth fwyaf Ewrop o'r anifeiliaid eiconig hyn, ac ychydig o leoedd sydd ar gael lle mae’n haws i’w gweld nhw yn y gwyllt, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf.

Nid dim ond dolffiniaid a welir ym Mae Ceredigion fodd bynnag; cydnabyddir bod aberoedd, riffiau, banciau tywod ac ogofâu y Bae yn bwysig ynddynt eu hunain, ac mae’r boblogaeth o forloi llwyd a lamprai hefyd o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae'r rhan fwyaf o'r bae wedi ei ddynodi yn ardal cadwraeth arbennig, gydag Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion yn ymestyn o ogledd Sir Benfro i Aber-arth ac Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a Sarnau yn ymestyn o Glarach ar hyd ymyl ogledd y bae a Phenrhyn Llŷn.

Mae'r ardal hefyd yn gartref i boblogaeth fawr o lamhidyddion harbwr, ond maent yn tueddu i fod yn fwy anodd i’w gweld na'r dolffiniaid sy’n fwy rhodresgar. Yn achlysurol hefyd gwelir siarcod, heulbysgod, morfilod a hyd yn oed crwbanod cefn lledr o’r clogwyni.