Cragen y Ddraig

Gellir adnabod Llwybr Arfordir Cymru gan ei logo nodedig, sef ‘cragen y ddraig’.

Mynegbost

Serch hynny, bydd y brand lleol yn parhau pan fo Llwybrau Arfordir unigol, fel Llwybr Arfordir Ceredigion, yn cadw eu hunaniaeth ei hunain.

Llwybr Arfordir Cymru

Mae Llwybr Arfordir Ceredigion bellach yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru, sef llwybr 870 o filltiroedd sy’n dilyn arfordir Cymru mor agos ag sydd yn ymarferol bosibl, gan ddechrau yn Queensferry ac aber Afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint i Gas-gwent ac aber Hafren ym Mhen-y-bont ar Ogwr. O gyfuno hyn â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, y mae bellach yn bosib cerdded o amgylch y wlad yn gyfan.

Ynys Lochtyn

Yn 2006, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru fwriad i ddatblygu ‘Llwybr Arfordir Cymru Gyfan’ erbyn 2012. Datblygwyd y syniad o’r awydd i adeiladu ar lwyddiant economaidd y Llwybrau Arfordir sefydledig yn Sir Benfro ac Ynys Môn, wedi i’r ddau ddatblygu i fod yn gyfranwyr mawr i economi twristiaeth yn eu hardaloedd. Tystiwyd i lwyddiant tebyg yng Ngheredigion hefyd wrth i nifer y cerddwyr gynyddu o un flwyddyn i’r llall ers agor Llwybr Arfordir Ceredigion.

Yn ychwanegol at roi hwb pwysig i economi Cymru, caiff Llwybr Arfordir Cymru hefyd ei ystyried yn fenter bwysig i annog pobl leol ac ymwelwyr i ddarganfod a mwynhau awyr agored Cymru ynghyd â mwynhau’r manteision y mae’n ei gynnig o ran iechyd a lles.

Agorwyd y llwybr yn swyddogol ar 5ed Mai 2012 wrth i dri digwyddiad mawr gael eu cynnal yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Chastell y Fflint ynghyd â nifer o ddathliadau lleol ar hyd y llwybr. Cafwyd croeso mawr i’r cynllun a phenderfynodd y Lonely Planet mai Llwybr Arfordir Cymru ac arfordir Cymru oedd y peth gorau i ymweld ag ef yn 2012, a hynny cyn lansio’r llwybr hyd yn oed.

Datblygwyd Llwybr Arfordir Cymru gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, 16 o awdurdodau lleol a dau Barc Cenedlaethol. Yn ychwanegol at gyllid gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yr arfordir o ryw £2 filiwn y flwyddyn, mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi dyrannu bron i £4 miliwn dros bedair blynedd i gefnogi’r prosiect.