coedwig danddwr

Detholwyd y rhan helaeth o’r wybodaeth ar y dudalen hon o nodiadau F. N. Campbell-James, fel y’u cyhoeddwyd yn "The Submerged Forest at Both and Ynys-las, Cardiganshire
Data for the Study of Post-Galacial History no.1" by H. Godwin & L. Newton, 1938.

Coedwig Danddwr

coedwig danddwr

Mae coedwig danddwr y Borth yn gyfrinach adnabyddus. Mae’n ymestyn hwnt ac yma am oddeutu dwy neu dair milltir ar hyd yr arfordir rhwng Ynys-las a’r Borth, ac fe saif tua hanner ffordd rhwng penllanw a distyll. Yr hyn sy’n ei gwneud yn gyfrinach yw’r ffaith ei bod fel arfer wedi’i chladdu dan dywod, ac ni ddaw i’r amlwg ond mewn rhai amgylchiadau penodol.

Ar yr adegau prin pan fo modd gweld y goedwig i gyd, gwelir gwastadedd eang o fawn yn cynnwys olion llawer o goed ymledol. Cofnodwyd pinwydd (Pinus), gwern (Alnus), derw (Quercus) a bedw (Betula) yma. Mae gwreiddiau’r coed mwyaf fel arfer wedi’u gwasgaru yn llorweddol, er bod rhai yn tyfu tuag i lawr. Mae hyn yn nodweddiadol o goed sy’n tyfu mewn corsydd, lle mae lefel trwythiad dŵr yn sicrhau bod gwreiddiau’r holl goed, ac eithrio coed gwern, yn cael eu cadw o fewn haenau awyrog arwyneb y mawn.

machlud yr haul

Dadansoddwyd paill o wahanol ddyfnderau, sydd yn dangos datblygiad dilynol sy’n nodweddiadol o le sydd wedi datblygu o fod yn wely cyrs i fod yn gors figwyn, lle tarfwyd ar y datblygiad hwnnw pan yr oedd yno goedwig yn y gors.

Gan fod tonnau wedi golchi ymaith yr haenau uchaf o’r mawn, ni cheir tystiolaeth o’r digwyddiadau a berodd i’r goedwig fynd o dan y dŵr, ond mae profion dyddio radiocarbon yn awgrymu bod y coed wedi marw rhwng 4,500 a 6,000 yn ôl. Mae datblygiad dilynol y mawn yn awgrymu bod y goedwig wedi bod yn rhydd o ddylanwad y môr am gyfnod hir, cyn y dyddodwyd is-haen o glai.