

Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn mynd ar hyd arfordir amrywiol Bae Ceredigion rhwng Aberteifi ac Ynys-las. P’un ai’r ydych am fynd am dro am awr neu fynd ar daith am wythnos, fe ddewch o hyd i rywbeth addas i chi. Gallwch ymuno â Llwybr Arfordir Ceredigion yn y trefi, pentrefi a meysydd parcio ar yr arfordir - fe welwch yr arwyddion yn glir.
Bydd yr wybodaeth ganlynol o gymorth i chi wrth gynllunio eich taith ar hyd Llwybr yr Arfordir. Mae graddau’r llwybrau yn berthnasol i dirwedd arfordir Ceredigion, ac yn seiliedig ar amrywiaeth yr uchder a pha mor serth yw’r llwybr, ond nid hyd y rhan benodol o’r llwybr. Cliciwch y dolenni cyswllt i weld mapiau a mwy o fanylion am unrhyw ran benodol o’r llwybr.
Pellter o 11.7 milltir (19.1 cilomedr) gradd: cymedrol / hawdd.
Pellter o 4.8 milltir (7.7 cilomedr) gradd: cymedrol / anodd.
Pellter o 9.4 milltir (15 cilomder) gradd: cymedrol.
Pellter o 6.5 milltir (10.5 cilomedr) gradd: cymedrol / hawdd.
Pellter o 7.4 milltir (11.9 cilomedr) gradd: cymedrol / hawdd.
Pellter o 10.6 milltir (17 cilomedr) gradd: cymedrol / anodd.
Pellter o 9.8 milltir (15.7 cilomedr) gradd: anodd.
| Mapiau OS Landranger; | Mapiau OS Explorer; |
|---|---|
| Map 145 – Aberteifi a Mynydd Preseli | Map 198 – Aberteifi a Cheinewydd |
| Map 146 – Llanbedr Pont Steffan a Llanymddyfri | Map 213 - Aberystwyth a Chwmrheidol |
| Map 135 - Aberystwyth a Machynlleth |