
Ceir dau hanner tra gwahanol i’r rhan hon o’r llwybr, gyda’r rhan o Aberystwyth i’r Borth yn Arfordir Treftadaeth heriol ond poblogaidd, a’r rhan rhwng y Borth ac Ynys-las yn gwbl wastad, a’r rhan helaeth o’r llwybr yn mynd ar hyd ymyl Cors Fochno.
Pellter 2.7 cilomedr (1.7 milltir), gradd - cymedrol
Mae’r rhan fer hon o Lwybr yr Arfordir yn mynd dros Graig Glais, lle gallwch fwynhau golygfeydd eang o Fae Ceredigion ac Aberystwyth, cael paned yn y caffi a gweld siambr dywyll fwya’r byd. Wrth fynd i’r gogledd o Aberystwyth, gallwch ddefnyddio rheilffordd y graig os nad ydych am straffaglu i fyny’r rhiw serth.
Pellter 5.1 cilomedr (3.2 milltir), gradd - anodd
Gyda llawer o riwiau mawr, dyma ran digon anodd o Lwybr yr Arfordir. Yn Wallog, gallwch weld Sarn Cynfelin yn ymestyn i’r môr pan fo’r llanw ar ddistyll.
Pellter 7.9 cilomedr (4.9 milltir), gradd - hawdd
Aiff y trywydd heibio’r Borth ychydig uwchben y marc penllanw, gan fynd tua’r mewndir wrth gyrraedd y nifer helaeth o argorau ar y traeth ysblennydd ar y ffordd i. Yna mae’n dilyn arglawdd Afon Leri, lle gallwch fwynhau golygfeydd dros Gors Fochno. Pan fo’r môr ar drai, neu os ydych yn arbennig o heini, gallwch gerdded y rhan hon i gyd ar y traeth.