Rhan boblogaidd o Lwybr yr Arfordir nad yw’n ormod o her.
Pellter 3.0 cilomedr (1.9 milltir), gradd - hawdd
Gellir dilyn dau drywydd rhwng y ddau le yma. Mae’n well gan y rhan helaeth o bobl gerdded ar y traeth ar hyd Bae Ceinewydd, ond gallai fod gofyn dilyn y ffordd pan fo’r llanw’n fawr. Ceir arwyddion ar y ddau lwybr, ynghyd â mapiau ar bob pen.
Map 1; dewisiadau llwybr Cei Newydd - Cei Bach
Pellter 7.5 cilomedr (4.7 milltir), gradd - cymedrol
Mae pen deheuol y rhan hon o Lwybr yr Arfordir yn mynd tua’r mewndir am ychydig, ond buan iawn y byddwch yn medru mwynhau golygfeydd o ben y clogwyni. Un o uchafbwyntiau’r rhan hon yw Cwm Buwch (chwith eithaf) lle mae Afon Dywi yn troelli drwy’r tir gan greu nodweddion topograffaidd diddorol, cyn troi’n rhaeadr sy’n plymio i draeth anghyraeddadwy.