Pellter 5.6 cilomedr (3.5 milltir), gradd - hawdd
Mae’r rhan yma’n mynd drwy gaeau fferm i’r gogledd o Afon Teifi, at lwybr wrth ymyl y ffordd gerllaw’r aber. Wrth gerdded i ffwrdd o Aberteifi, daw’r aber i’r golwg fesul dipyn.
Pellter 5.8 cilomedr (3.6 milltir), gradd - hawdd
Ar hyn o bryd mae’r rhan hon yn mynd yn bennaf ar hyd y ffordd, ond mae gwaith yn mynd yn ei flaen i greu llwybr cyswllt newydd ar hyd tir fferm ac yna ar hyd yr arfordir.
Pellter 8 cilomedr (5 milltir), gradd - cymedrol
Rhan anghysbell o Lwybr yr Arfordir sy’n mynd dros glogwyni a llethrau arfordirol, y tu hwnt i’r tir amaethyddol. Mae tawelwch a llonyddwch y llwybr hwn yn mynd â chi ymaith o brysurdeb bywyd modern.
Wrth i chi ddod at Aberporth mae’r llwybr yn gwyro tua’r mewndir drwy Gwm Gwrddon er mwyn osgoi canolfan y Weinyddiaeth Amddiffyn.