Mariannau rhewlifol yw sarnau (cefnennau o graig a symudwyd ac a godwyd gan rewlifoedd) ac maent wedi’u gwneud yn llwyr o glogfeini, coblau a cherrig mân yn gymysg gyda gwahanol raddfeydd o waddod. Amgylchynir y riffiau gan wastadeddau gwaddod ar bob ochr ac maent yn wyneb llif y llanw a thonnau. Nodweddir y riffiau gan nifer fawr o rywogaethau sydd â’r gallu i wrthsefyll natur symudol is-haen y riffiau.

defaid ar y sarnau

Gan mwyaf, mae’r riffiau mewn dŵr bas (llai na 10 metr o ddyfnder) er eu bod yn ymestyn i ddŵr dyfnach ym mhellafoedd y de-orllewin. Caiff y riffiau creigiog bas eu hawlio gan rywogaethau o wymon sy’n medru gwrthsefyll tywod a sgwriad, ac sy’n creu gwelyau gwymon trwchus ar draws y riffiau.

Sarn Cynfelyn

Sarn Cynfelyn

Yn gorwedd dan y don ac yn ymestyn i’r môr o Wallog, rhwng Clarach a’r Borth, ni ellir gweld y sarn hon ond pan fo’r llanw ymhell allan. Fe’i ffurfiwyd gan farian rhewlifol a adawyd ar ôl wrth i lenni iâ encilio ar ddiwedd yr oes iâ ddiwethaf, ac mae’n ymestyn am unarddeg cilomedr i’r môr, gyda dim ond un bwlch bach. Mae’n dod i ben wrth riff tanddwr Caerwyddno.

Sarn Cynfelyn yw’r un mwyaf deheuol o dair nodwedd o’r fath sy’n ymestyn i Fae Ceredigion ac sydd yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Pen Llŷn a’r Sarnau. Yr un hiraf a mwyaf gogleddol o’r rhain yw Sarn Badrig ger Mochras, nid nepell o Harlech, a gellir dod o hyd i Sarn y Bwlch yng nghyffiniau Tywyn. Ceir dwy sarn llai o faint yn ne Ceredigion.

Mae’n debyg mai’r Sarnau hyn, ynghyd â’r goedwig danfor yn y Borth, oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y chwedl am diroedd coll Cantre’r Gwaelod.

Sarn Cynfelyn

Fel pob chwedl, mae’r hanes yn amrywio o le i le.

Teyrnas gyfoethog oedd Cantre'r Gwaelod a reolwyd gan Gwyddno Garanhir, ac fe safai ar iseldir yr hyn a elwir bellach yn Fae Ceredigion. Fe’i hamddiffynnwyd rhag y môr gan forgloddiau a llifddorau. Yn anffodus, bu i’r gwyliwr penodedig Seithennyn - cryn ddiotwr yn ôl rhai sy’n adrodd yr hanes - esgeuluso’r rhagfuriau mawr, ac un noson cafwyd storm enfawr a dorrodd y morgloddiau, gan suddo’r deyrnas dan y môr.

Yn ôl y sôn, os gwrandewch yn astud gallwch glywed clychau eglwys Cantre’r Gwaelod yn canu o Ynys-las ac Aberdyfi. Fodd bynnag, ceir cryn ddadlau ynghylch yr amser gorau i’w clywed. Mae rhai’n mynnu mai noswaith dawel sydd orau, eraill yn cynnig bore Sul, ac eraill yn dweud bod y clychau’n canu’n uwch pan fo rhywun mewn perygl.