Dyma un o’r ddau le yng Ngheredigion sy’n bwysig i’r glöyn byw brith perlog.
Yng Nghastell Bach saif anheddiad Celtaidd o’r Oes Haearn a bryngaer ar y pentir sy’n dyddio’n ôl i oddeutu 300 CC. Arferai’r anheddiad fod ar lwyfandir gwastad wedi’i amddiffyn gan ffos ddwbl a gwrthgloddiau, a gwelir eu holion hyd heddiw yn y llun o’r awyr ar y chwith. Buasai gŵyr yr Oes Haearn wedi defnyddio brigau coed a drain i wneud ffensys i’w rhoi ar ben y gwrthgloddiau
Wrth i’r arfordir erydu, mae rhywfaint o’r gaer wedi cwympo i’r môr, ond mae hynny’n rhoi cyfle i weld trawstoriad o’r gwrthgloddiau.
Wrth fynd yn syth i’r de orllewin o’r fan hon, fe ddewch o hyd i gildraeth bach tywodlyd. Caiff ei gysgodi gan fryncyn creigiog sydd bron yn ddigon mawr i fod yn ynys. At ei gilydd, mae’n lle hardd iawn.
Efallai y bu cysgod y cildraeth yn arwyddocaol o ran lleoli’r anheddiad, ond mae’n amhosib dweud i ba raddau y mae dwy ganrif a hanner o erydu wedi newid y rhan hon o’r arfordir.